Ezekiel 47:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a fesurodd fil eraill; ac afon oedd, yr hon ni allwn fyned trwyddi: canys codasai y dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy, yn afon ni ellid myned trwyddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna mesurodd 525 metr arall ac roedd yn afon amhosib i'w chroesi ar droed. Roedd y dŵr yn ddigon dwfn i nofio ynddo, ond doedd hi ddim yn bosib cerdded trwyddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mesurodd fil arall eto, ond yr oedd yn afon na allwn ei chroesi, oherwydd yr oedd y dyfroedd wedi codi gymaint fel y gellid nofio ynddynt, ac yn afon na ellid ei chroesi.