Ezekiel 48:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dyma enwau y llwythau. O gwr y gogledd ar duedd ffordd Hethlon, ffordd yr eir i Hamath, Hasar‐enan, terfyn Damascus tua'r gogledd, i duedd Hamath, (canys y rhai hyn oedd ei derfynau dwyrain a gorllewin,) rhan i Dan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma enwau llwythau Israel, a'r tir mae pob un i'w dderbyn: Bydd Dan reit yn y gogledd, wrth ymyl ffordd Chethlon i Fwlch Chamath, cyn belled â Chatsar-einan ar y ffin gyda Damascus a Chamath i'r gogledd. Bydd tir Dan yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dyma enwau'r llwythau. Ar derfyn y gogledd, wrth ymyl ffordd Hethlon i Lebo-hamath a Hasar-enan, gyda Damascus ar derfyn y gogledd at ymyl Hamath, ac yn ymestyn o ddwyrain i orllewin, bydd Dan: un gyfran.