Ezekiel 48:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac eiddo y rhai hyn fydd yr offrwm cysegredig, sef eiddo yr offeiriaid, fydd pum mil ar hugain tua'r gogledd o hyd, a dengmil tua'r gorllewin o led; felly dengmil tua'r dwyrain o led, a phum mil ar hugain tua'r deau o hyd: a chysegr yr ARGLWYDD fydd yn ei ganol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y tir yma sydd wedi ei gysegru yn cael ei rannu rhwng yr offeiriaid — wyth milltir o'r gogledd i'r de, a tair milltir a hanner o'r dwyrain i'r gorllewin. A bydd cysegr yr ARGLWYDD yn ei ganol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma fydd yn gyfran gysegredig i'r offeiriaid: cyfran pum mil ar hugain o gufyddau o hyd ar ochr y gogledd, deng mil o led ar ochr y gorllewin, deng mil o led ar ochr y dwyrain, a phum mil ar hugain o hyd ar ochr y de; ac yn y canol bydd cysegr yr ARGLWYDD.