Ezekiel 48:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I'r offeiriaid cysegredig o feibion Sadoc y bydd, y rhai a gadwasant fy nghadwraeth, y rhai ni chyfeiliornasant pan gyfeiliornodd plant Israel, megis y cyfeiliornodd y Lefiaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hwn fydd y tir i'r offeiriaid, sef disgynyddion Sadoc wnaeth ddal ati i wneud eu gwaith heb grwydro i ffwrdd fel y gwnaeth gweddill pobl Israel a'r Lefiaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd y gyfran hon i'r offeiriaid cysegredig o deulu Sadoc a fu'n ffyddlon i'm gwasanaethu, heb fynd ar gyfeiliorn fel y gwnaeth y Lefiaid pan aeth yr Israeliaid ar grwydr.