Ezekiel 5:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y tadau a fwytânt y plant yn dy fysg di, a'r plant a fwyty eu tadau; a gwnaf ynot farnedigaethau, a mi a daenaf dy holl weddill gyda phob gwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pethau'n mynd mor wael yn Jerwsalem, bydd rhieni'n bwyta eu plant a plant yn bwyta eu rhieni! Dw i'n mynd i'ch barnu chi, a bydd y bobl hynny fydd yn llwyddo i oroesi yn cael eu gyrru ar chwâl i bob cyfeiriad.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, yn dy ganol di bydd rhieni yn bwyta eu plant a phlant yn bwyta eu rhieni; gwnaf farn thi, a gwasgaraf i'r pedwar gwynt y rhai a weddillir ohonot.