Ezekiel 5:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y bydd y gwaradwydd a'r gwarthrudd yn ddysg ac yn syndod i'r cenhedloedd sydd o'th amgylch, pan wnelwyf ynot farnedigaethau mewn dig, a llidiowgrwydd, a cherydd llidiog. Myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddi'n destun sbort i bawb sy'n pasio heibio. Bydd y gwledydd sydd o dy gwmpas wrth eu boddau yn enllibio ac yn cega pan fydda i'n dy farnu di ac yn dy gosbi mor ffyrnig. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddi'n warth ac yn watwar, yn wers ac yn fraw i'r cenhedloedd o'th amgylch, pan wnaf farn thi mewn dig ac mewn llid ac cherydd miniog. Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd.