Ezekiel 5:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am i chwi amlhau yn fwy na'r cenhedloedd sydd o'ch amgylch, heb rodio ohonoch yn fy neddfau, na gwneuthur fy marnedigaethau, ac na wnaethoch yn ôl barnedigaethau y cenhedloedd sydd o'ch amgylch;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud: “Dych chi'n achosi mwy o drafferth na'r gwledydd o'ch cwmpas chi i gyd! Dych chi wedi torri fy rheolau a gwrthod gwrando arna i. Allwch chi ddim hyd yn oed cadw safonau'r gwledydd paganaidd o'ch cwmpas chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am i chwi fod yn fwy terfysglyd na'r cenhedloedd o'ch amgylch, a pheidio dilyn fy neddfau nac ufuddhau i'm barnau, na hyd yn oed farnau'r cenhedloedd o'ch amgylch,