Ezekiel 6:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan fyddo eu harcholledigion hwynt ymysg eu heilunod o amgylch eu hallorau, ar bob bryn uchel, ar holl bennau y mynyddoedd, a than bob pren ir, a than bob derwen gaeadfrig, lle y rhoddasant arogl peraidd i'w holl eilunod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd eu cyrff marw yn gorwedd ym mhobman, am eu bod nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i'w heilunod. Bydd cyrff o gwmpas yr eilunod a'r allorau paganaidd, ar bob bryn uchel a mynydd, a dan pob coeden ddeiliog. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fydd eu clwyfedigion ymysg eu heilunod o amgylch eu hallorau ar bob bryn uchel, ar holl bennau'r mynyddoedd, dan bob pren gwyrddlas a than bob derwen ddeiliog lle buont yn offrymu arogl peraidd i'w holl eilunod.