Ezekiel 6:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywed, Mynyddoedd Israel, gwrandewch air yr ARGLWYDD DDUW: Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth y nentydd ac wrth y dyffrynnoedd; Wele fi, ie, myfi yn dwyn cleddyf arnoch, a mi a ddinistriaf eich uchel leoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dywed, ‘Fynyddoedd Israel, gwrandwch ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD! Dyma mae e'n ddweud wrth y mynyddoedd a'r bryniau, y ceunentydd a'r dyffrynnoedd: Dw i'n anfon byddin i ymosod arnoch chi, a dinistrio'ch allorau paganaidd lleol chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud, 'Fynyddoedd Israel, gwrandewch air yr Arglwydd DDUW. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth y mynyddoedd a'r bryniau, wrth y nentydd a'r dyffrynnoedd: Yr wyf fi'n dod yn eich erbyn 'r cleddyf, a dinistriaf eich uchelfeydd.