Ezekiel 6:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'ch rhai dihangol a'm cofiant i ymysg y cenhedloedd y rhai y caethgludir hwynt atynt, am fy nryllio â'u calon buteinllyd, yr hon a giliodd oddi wrthyf; ac â'u llygaid, y rhai a buteiniasant ar ôl eu heilunod: yna yr ymffieiddiant ynddynt eu hun am y drygioni a wnaethant yn eu holl ffieidd‐dra.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A byddan nhw'n cofio amdana i yno! Byddan nhw'n sylweddoli sut roedden nhw'n torri fy nghalon i wrth fod mor anffyddlon a dilyn pa dduw bynnag oedd yn cymryd eu ffansi. Bydd ganddyn nhw gymaint o gywilydd am eu bod wedi cymryd rhan mewn defodau mor ffiaidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymysg y cenhedloedd lle caethgludwyd hwy, bydd y rhai a ddihangodd yn fy nghofio fel y drylliwyd fi gan eu calonnau godinebus pan oeddent yn troi oddi wrthyf, a chan eu llygaid pan oeddent yn godinebu gydag eilunod; yna byddant yn eu casu eu hunain am y drygioni a wnaethant ac am eu holl ffieidd-dra.