Ezekiel 7:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr amser a ddaeth, y dydd a nesaodd: na lawenyched y prynwr, ac na thristaed y gwerthwr: canys mae dicllonedd ar ei holl liaws hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n amser! Mae'r diwrnod wedi dod! Fydd y prynwr ddim yn dathlu, na'r gwerthwr yn drist. Mae Duw wedi digio gyda pawb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth yr amser, cyrhaeddodd y dydd. Na fydded i'r prynwr lawenhau nac i'r gwerthwr ofidio, oherwydd daeth dicter ar y dyrfa i gyd.