Ezekiel 7:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y cleddyf fydd oddi allan, yr haint hefyd a'r newyn o fewn: yr hwn fyddo yn y maes, a fydd farw gan gleddyf; a'r hwn a fyddo yn y ddinas, newyn a haint a'i difa ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae cleddyfau'r gelyn yn barod y tu allan i waliau'r ddinas. Mae haint a newyn yn disgwyl amdanyn nhw y tu mewn. Bydd pwy bynnag sydd yng nghefn gwlad yn cael ei ladd gan y cleddyf, a bydd pawb yn y ddinas yn marw o newyn a haint.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Oddi allan y mae cleddyf, ac oddi mewn haint a newyn; bydd y rhai sydd allan yn y maes yn marw trwy'r cleddyf, a'r rhai sydd yn y ddinas yn cael eu hysu gan newyn a haint.