Ezekiel 7:26 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Daw trychineb ar drychineb, a bydd chwedl ar chwedl: yna y ceisiant weledigaeth gan y proffwyd; ond cyfraith a gyll gan yr offeiriad, a chyngor gan yr henuriaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd un drychineb ar ôl y llall, a dim byd ond newyddion drwg. Fydd gan y proffwydi ddim gweledigaeth i'w gynnig. Fydd yr offeiriaid ddim yn gallu rhoi arweiniad o'r Gyfraith, a fydd yr arweinwyr gwleidyddol ddim yn gwybod beth i'w ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daw trallod ar ben trallod, a sibrydion ar ben sibrydion; ceisiant weledigaeth gan y proffwyd, a bydd y gyfraith yn pallu gan yr offeiriad, a chyngor gan yr henuriaid.