Ezekiel 7:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy llygad hefyd ni'th arbed di, ac ni thosturiaf: eithr rhoddaf dy ffyrdd arnat ti, a'th ffieidd‐dra fydd yn dy ganol di: fel y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd yna ddim trugaredd i chi! Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am eich ymddygiad, a bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau y pethau ffiaidd wnaethoch chi. Byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni fyddaf yn tosturio wrthyt, ac ni fyddaf yn trugarhau, ond talaf iti am dy ffyrdd ac am y ffieidd-dra sydd yn dy ganol. Yna cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.