Ezekiel 8:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthyf, a weli di, fab dyn, yr hyn y mae henuriaid Israel yn ei wneuthur yn y tywyllwch, bob un o fewn ei ddelw‐gelloedd? canys dywedant, Nid yw yr ARGLWYDD yn ein gweled; gadawodd yr ARGLWYDD y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Duw yn dweud wrtho i: “Ddyn, wyt ti'n gweld beth mae arweinwyr Israel yn ei wneud yn y tywyllwch — pob un ohonyn nhw o flaen ei hoff eilun? ‘Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gweld. Mae e wedi troi cefn ar y wlad,’ medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd wrthyf, "A welaist ti, fab dyn, beth y mae henuriaid tu375? Israel yn ei wneud yn y tywyllwch, bob un ohonynt yn ystafell ei gerfddelw? Fe ddywedant, 'Nid yw'r ARGLWYDD yn ein gweld; gadawodd yr ARGLWYDD y wlad.'"