Ezekiel 8:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'm dug i gyntedd tŷ yr ARGLWYDD oddi fewn, ac wele wrth ddrws teml yr ARGLWYDD, rhwng y porth a'r allor, ynghylch pumwr ar hugain, a'u cefnau tuag at deml yr ARGLWYDD, a'u hwynebau tua'r dwyrain; ac yr oeddynt hwy yn ymgrymu i'r haul tua'r dwyrain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n mynd â fi i iard fewnol teml yr ARGLWYDD. Ac yno, wrth y fynedfa i'r cysegr, rhwng y cyntedd a'r allor, roedd tua dau ddeg pump o ddynion. Roedden nhw wedi troi eu cefnau ar y cysegr, ac yn wynebu'r dwyrain a plygu i lawr i addoli'r haul!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth mi i gyntedd mewnol tu375?'r ARGLWYDD, ac yno wrth ddrws teml yr ARGLWYDD, rhwng y cyntedd a'r allor, yr oedd tua phump ar hugain o ddynion; yr oedd eu cefnau at deml yr ARGLWYDD, a'u hwynebau tua'r dwyrain, ac yr oeddent yn ymgrymu i'r haul yn y dwyrain.