Ezekiel 9:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele chwech o wŷr yn dyfod o ffordd y porth uchaf, yr hwn sydd yn edrych tua'r gogledd, a phob un â'i arf dinistr yn ei law: ac yr oedd un gŵr yn eu mysg hwynt wedi ei wisgo â lliain, a chorn du ysgrifennydd wrth ei glun; a hwy a aethant i mewn, ac a safasant wrth yr allor bres.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwelais chwe dyn yn dod o gyfeiriad y giât uchaf sy'n wynebu'r gogledd. Roedd gan bob un arf, sef pastwn, yn ei law. Roedd dyn arall gyda nhw, mewn gwisg o liain, ac roedd ganddo offer ysgrifennu wedi ei strapio am ei ganol. Dyma nhw'n dod i'r deml, ac yn sefyll wrth ymyl yr allor bres.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelais chwech o ddynion yn dod o gyfeiriad y porth uchaf, sy'n wynebu'r gogledd, pob un ag arf marwol yn ei law; gyda hwy yr oedd dyn wedi ei wisgo lliain, ac offer ysgrifennu wrth ei wasg. Daethant i mewn a sefyll gyferbyn 'r allor bres.