Ezekiel 9:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gogoniant DUW Israel a gyfododd oddi ar y ceriwb yr ydoedd efe arno, hyd riniog y tŷ. Ac efe a lefodd ar y gŵr oedd wedi ei wisgo â lliain, yr hwn yr oedd corn du ysgrifennydd wrth ei glun:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ysblander Duw Israel yn codi oddi ar y cerbyd a'r ceriwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. A dyma'r ARGLWYDD yn galw ar y dyn mewn gwisg o liain oedd yn cario'r offer ysgrifennu,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cododd gogoniant Duw Israel i fyny oddi ar y cerwbiaid, lle bu'n aros, a mynd at riniog y deml. Galwodd yr ARGLWYDD ar y dyn oedd wedi ei wisgo lliain, ac offer ysgrifennu wrth ei wasg,