Ezekiel 9:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, a hwy yn lladd, a'm gado innau, i mi syrthio ar fy wyneb, a gweiddi, a dywedyd, O ARGLWYDD DDUW, a ddifethi di holl weddill Israel, wrth dywallt dy lid ar Jerwsalem?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan aethon nhw allan i'r ddinas ces fy ngadael yn sefyll yno ar fy mhen fy hun. A dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr, a gweddïo'n uchel ar Dduw, “O, na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt ti'n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel drwy dywallt dy lid ar Jerwsalem fel yma?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oeddent yn lladd, a minnau wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, syrthiais ar fy wyneb, a gwaeddais a dweud, "O Arglwydd DDUW, a ddistrywi di holl weddill Israel wrth dywallt dy lid ar Jerwsalem?"