Ezra 1:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr holl lestri, yn aur ac yn arian, oedd bum mil a phedwar cant. Y rhai hyn oll a ddug Sesbassar i fyny gyda'r gaethglud a ddygwyd i fyny o Babilon i Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly cyfanswm y llestri aur ac arian oedd 5,400. Daeth Sheshbatsar â nhw i gyd i Jerwsalem pan ddaeth y caethion yn ôl o Babilon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyfanswm y llestri aur ac arian, pum mil a phedwar cant. A daeth Sesbassar 'r cwbl gydag ef pan ddychwelodd y gaethglud o Fabilon i Jerwsalem.