Ezra 1:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai oll o'u hamgylch a'u cynorthwyasant hwy â llestri arian, ac aur, a golud, ac ag anifeiliaid, ac â phethau gwerthfawr, heblaw yr hyn oll a offrymwyd yn ewyllysgar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac roedd eu cymdogion i gyd yn eu helpu nhw, drwy roi llestri o arian ac aur iddyn nhw, cyfarpar, anifeiliaid, a lot fawr o anrhegion drud eraill, heb sôn am yr offrymau gwirfoddol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cawsant gefnogaeth eu holl gymdogion gyda llestri arian ac aur, ac offer ac anifeiliaid ac anrhegion gwerthfawr, at y cwbl a roed yn wirfoddol.