Ezra 10:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y bobl sydd lawer, a'r amser yn lawog, ac ni ellir sefyll allan, ac nid gwaith un diwrnod na dau ydyw: canys pechasom yn ddirfawr yn y peth hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae yna lot fawr ohonon ni, ac mae'n glawio'n drwm. Allwn ni ddim sefyll allan yma. Dydy'r mater ddim yn mynd i gael ei setlo mewn rhyw ddiwrnod neu ddau, am fod gormod ohonon ni wedi pechu yn hyn o beth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae yma lawer o bobl; y mae'n dymor y glawogydd, ac ni allwn aros yn yr awyr agored. Nid gwaith diwrnod neu ddau ydyw, oherwydd y mae llawer ohonom wedi pechu yn hyn o beth.