Ezra 10:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Safed yn awr ein penaethiaid o'r holl dyrfa, a deued y rhai o'n dinasoedd a gytaliasant â gwragedd dieithr, ar amseroedd gosodedig, a henuriaid pob dinas, a'u barnwyr gyda hwynt, nes troi dicter ein DUW oddi wrthym am y peth hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gall y penaethiaid weithredu ar ran pawb. Wedyn gosod dyddiad penodol i bob tref, i bawb yn y dref honno sydd wedi cymryd gwragedd o blith y bobloedd eraill, i ddod yma. Gall arweinwyr a barnwyr y dref ddod gyda nhw, nes bydd Duw ddim mor ffyrnig hefo ni am beth wnaethon ni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Caiff ein penaethiaid gynrychioli'r gynulleidfa gyfan, a bydded i'r rhai yn ein dinasoedd sydd wedi priodi merched estron ddod ar amseroedd penodedig, pob un gyda henuriaid a barnwyr ei ddinas ei hun, nes i ddicter mawr ein Duw am hyn droi oddi wrthym."