Ezra 10:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion y gaethglud a wnaethant felly. Ac Esra yr offeiriad, a'r gwŷr oedd bennau‐cenedl tŷ eu tadau, a hwynt oll wrth eu henwau, a neilltuwyd, ac a eisteddasant ar y dydd cyntaf o'r degfed mis, i ymofyn am y peth hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly aeth y bobl yn eu blaenau gyda'r cynllun. Dyma Esra'r offeiriad yn dewis dynion oedd yn arweinwyr yn eu clan, a'u rhestru nhw wrth eu henwau. A dyma nhw'n dechrau mynd ati i ddelio gyda'r mater ar ddiwrnod cynta'r degfed mis.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i'r rhai oedd wedi bod yn y gaethglud gytuno, fe neilltuodd Esra yr offeiriad ddynion oedd yn bennau-teuluoedd i gynrychioli eu teuluoedd wrth eu henwau. Eisteddasant ar y dydd cyntaf o'r degfed mis i archwilio'r mater,