Ezra 10:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a wnaethant ben â'r holl wŷr a gytaliasent â gwragedd dieithr, erbyn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd hi'n ddiwrnod cynta'r flwyddyn ganlynol erbyn iddyn nhw orffen delio gyda'r holl ddynion oedd wedi priodi gwragedd paganaidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac erbyn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf yr oeddent wedi gorffen eu hymchwiliad i'r holl briodasau gyda merched estron.