Ezra 10:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y llefarodd Sechaneia mab Jehiel, o feibion Elam, ac a ddywedodd wrth Esra, Ni a bechasom yn erbyn ein DUW, ac a gytaliasom â gwragedd dieithr o bobl y wlad: eto yn awr y mae gobaith i Israel am hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Shechaneia fab Iechiel, o deulu Elam, yn dweud wrth Esra: “Dŷn ni wedi bod yn anffyddlon i Dduw yn priodi merched y bobloedd eraill sy'n byw yma. Ac eto mae gobaith i Israel er gwaetha'r cwbl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Sechaneia fab Jehiel, o deulu Elam, wrth Esra, "Yr ydym wedi troseddu yn erbyn ein Duw trwy briodi merched estron o blith pobloedd y wlad; eto y mae gobaith i Israel er gwaethaf hyn.