Ezra 2:69 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhoddasant yn ôl eu gallu i drysordy y gwaith, un fil a thrigain o ddracmonau aur, a phum mil o bunnoedd o arian, a chant o wisgoedd offeiriaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhoddodd pob un gymaint ag y gallen nhw ei fforddio tuag at y gwaith: tua 500 cilogram o aur, 2,800 cilogram arian, a 100 o wisgoedd i'r offeiriaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoesant i drysorfa'r gwaith chwe deg ac un o filoedd o ddracmonau aur a phum mil mina o arian a chant o wisgoedd offeiriadol.