Ezra 3:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan oedd y seiri yn sylfaenu teml yr ARGLWYDD, hwy a osodasant yr offeiriaid yn eu gwisgoedd ag utgyrn, a'r Lefiaid meibion Asaff â symbalau, i foliannu yr ARGLWYDD, yn ôl ordinhad Dafydd brenin Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gafodd sylfaeni teml yr ARGLWYDD eu gosod, dyma'r offeiriaid yn eu gwisgoedd seremonïol yn canu utgyrn, a'r Lefiaid (sef meibion Asaff) yn taro symbalau, i foli'r ARGLWYDD. Roedden nhw'n dilyn y drefn roedd Dafydd, brenin Israel, wedi ei gosod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i'r adeiladwyr osod sylfaen teml yr ARGLWYDD, safodd yr offeiriaid yn eu gwisgoedd gyda thrwmpedau, a'r Lefiaid, meibion Asaff, gyda symbalau i foliannu'r ARGLWYDD yn l gorchymyn Dafydd brenin Israel.