Ezra 3:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a gydganasant, wrth foliannu ac wrth glodfori yr ARGLWYDD, mai da oedd, mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel. A'r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr, gan foliannu yr ARGLWYDD, am sylfaenu tŷ yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n canu mewn antiffoni, wrth foli ac addoli'r ARGLWYDD: “Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni i Israel yn ddiddiwedd!” A dyma'r dyrfa i gyd yn gweiddi'n uchel a moli'r ARGLWYDD am fod sylfaeni'r deml wedi eu gosod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent yn ateb ei gilydd mewn mawl a diolch i'r ARGLWYDD: "Y mae ef yn dda, a'i gariad at Israel yn parhau byth." Yna bloeddiodd yr holl bobl yn uchel mewn moliant i'r ARGLWYDD am fod sylfaen tu375?'r ARGLWYDD wedi ei gosod.

Recommended Reading