Ezra 3:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi hynny y poethoffrwm gwastadol, ac offrwm y newyddloerau, a holl sanctaidd osodedig wyliau yr ARGLWYDD, offrwm ewyllysgar pob un a offrymai ohono ei hun, a offrymasant i'r ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma nhw'n dod â'r offrymau arferol oedd i'w llosgi — yr offrymau misol ar Ŵyl y lleuad newydd, a'r offrymau ar gyfer y gwyliau eraill pan oedd pobl yn dod at ei gilydd i addoli; a hefyd yr offrymau roedd pobl yn eu rhoi yn wirfoddol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l hyn yr oeddent yn aberthu'r poethoffrymau cyson, a'r rhai ar gyfer y newydd-loerau a holl wyliau penodedig yr ARGLWYDD, a'r holl aberthau a roddid yn wirfoddol i'r ARGLWYDD.