Ezra 3:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O'r dydd cyntaf i'r seithfed mis y dechreuasant offrymu poethoffrymau i'r ARGLWYDD. Ond teml yr ARGLWYDD ni sylfaenasid eto.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dechreuon nhw losgi offrymau i'r ARGLWYDD ar ddiwrnod cynta'r seithfed mis. Ond doedd y gwaith o ailadeiladu teml yr ARGLWYDD ddim wedi dechrau eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dechreusant aberthu poethoffrymau i'r ARGLWYDD o ddydd cyntaf y seithfed mis, er nad oedd sylfaen teml yr ARGLWYDD wedi ei gosod.