Ezra 4:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y ceisier yn llyfr historïau dy dadau: a thi a gei yn llyfr yr historïau, ac a elli wybod, fod y ddinas hon yn ddinas wrthryfelgar, niweidiol i frenhinoedd a thaleithiau, a bod yn gwneuthur brad‐fwriad o fewn hon er ys talm: am hynny y dinistriwyd y ddinas hon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
er mwyn iddo orchymyn archwilio cofnodion ei ragflaenwyr. Bydd e'n darganfod wedyn fod Jerwsalem wedi achosi dim byd ond trwbwl i frenhinoedd a thaleithiau. Mae un helynt ar ôl y llall wedi codi o'i mewn o'r dechrau. A dyna'n union pam cafodd y ddinas ei dinistrio!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
er mwyn iti chwilio yn llyfr cofnodion dy ragflaenwyr. Fe weli oddi wrth lyfr y cofnodion mai dinas wrthryfelgar fu hon, andwyol i frenhinoedd a thaleithiau, a bod gwrthryfel yn nodwedd arni ers amser maith. Dyna pam y dinistriwyd y ddinas.