Ezra 4:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a osodais orchymyn, a chwiliwyd; a chafwyd fod y ddinas hon er ys talm yn ymddyrchafu yn erbyn brenhinoedd, a gwneuthur ynddi anufudd‐dod a gwrthryfel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma fi'n gorchymyn edrych i mewn i'r mater, a mae'n wir fod pobl y ddinas yma wedi achosi helynt i frenhinoedd o'r dechrau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar fy ngorchymyn gwnaethpwyd ymchwiliad, a darganfod i'r ddinas hon wrthryfela yn erbyn brenhinoedd ers amser maith, a bod brad a gwrthryfel wedi codi ynddi.