Ezra 4:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A brenhinoedd cryfion a fu ar Jerwsalem, yn llywodraethu ar bawb o'r tu hwnt i'r afon; ac iddynt hwy y rhoddid toll, teyrnged, a threth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae brenhinoedd pwerus wedi bod yn teyrnasu dros Jerwsalem ac ardal gyfan Traws-Ewffrates, ac wedi bod yn derbyn trethi a thollau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu brenhinoedd cryfion yn teyrnasu dros Jerwsalem a thros holl dalaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a rhoddwyd iddynt dreth, teyrnged a tholl.