Ezra 4:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna pan ddarllenwyd ystyr llythyr Artacsercses y brenin o flaen Rehum a Simsai yr ysgrifennydd, a'u cyfeillion, hwy a aethant i fyny ar frys i Jerwsalem at yr Iddewon, ac a wnaethant iddynt beidio trwy fraich a chryfder.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn syth ar ôl i lythyr y Brenin Artaxerxes gael ei ddarllen i Rechwm, Shimshai a'u cydweithwyr, dyma nhw'n brysio draw at yr Iddewon yn Jerwsalem. Roedden nhw'n bygwth ymyrraeth filwrol os nad oedd y gwaith yn stopio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, pan ddarllenwyd copi o lythyr Artaxerxes i Rehum a Simsai yr ysgrifennydd a'u cefnogwyr, aethant ar frys at yr Iddewon yn Jerwsalem a thrwy nerth braich eu rhwystro rhag gweithio.