Ezra 4:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn nyddiau Artacsercses yr ysgrifennodd Bislam, Mithredath, Tabeel, a'r rhan arall o'u cyfeillion, at Artacsercses brenin Persia; ac ysgrifen y llythyr a ysgrifennwyd yn Syriaeg, ac a eglurwyd yn Syriaeg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A wedyn pan oedd Artaxerxes yn frenin ar Persia, dyma Bishlam, Mithredath, Tafél a'u cydweithwyr, yn ysgrifennu ato fe. Roedd y llythyr wedi ei ysgrifennu yn Aramaeg, ac yna ei gyfieithu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hefyd yn amser Artaxerxes ysgrifen-nodd Bislam, Mithredath, Tabeel a'r gweddill o'u cefnogwyr at Artaxerxes brenin Persia; yr oedd y llythyr wedi ei ysgrifennu mewn Aramaeg, a dyma'i gynnwys mewn Aramaeg.