Ezra 5:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llestri tŷ DDUW hefyd o aur ac arian, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor o'r deml yn Jerwsalem, ac a'u dygasai i deml Babilon, y rhai hynny a ddug y brenin Cyrus allan o deml Babilon, a rhoddwyd hwynt i un Sesbassar wrth ei enw, yr hwn a osodasai efe yn dywysog;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe hyd yn oed yn rhoi llestri aur ac arian y deml yn ôl (y rhai oedd Nebwchadnesar wedi eu cymryd o Jerwsalem i'w balas yn Babilon). Rhoddodd Cyrus nhw i ddyn o'r enw Sheshbatsar, oedd wedi ei benodi yn llywodraethwr ar Jwda,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd llestri aur ac arian yn perthyn i du375? Dduw; dygodd Nebuchadnesar hwy o'r deml yn Jerwsalem a'u rhoi yn nheml Babilon, ond cymerodd y Brenin Cyrus hwy o'r deml ym Mabilon a'u rhoi i u373?r o'r enw Sesbassar, a oedd wedi ei benodi'n llywodraethwr.