Ezra 5:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr, os da gan y brenin, ceisier yn nhrysordy y brenin yna yn Babilon, a ddarfu i'r brenin Cyrus osod gorchymyn am adeiladu y tŷ DDUW hwn yn Jerwsalem; ac anfoned y brenin ei ewyllys atom am y peth hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly os ydy'r brenin yn hapus i wneud hynny, gallai orchymyn chwilio drwy'r archifau brenhinol yn Babilon, i weld os gwnaeth y brenin Cyrus orchymyn ailadeiladu'r deml yn Jerwsalem ai peidio. Wedyn falle y gallai'r brenin anfon i ddweud wrthon ni beth mae e eisiau i ni ei wneud.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, os cytuna'r brenin, chwilier yn yr archifau brenhinol ym Mabilon i weld a roes y Brenin Cyrus orchymyn i ailadeiladu'r deml hon yn Jerwsalem. Anfoner i ni ddyfarniad y brenin ynglu375?n 'r mater."