Ezra 6:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r DUW, yr hwn a wnaeth i'w enw breswylio yno, a ddinistria bob brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo DUW yn Jerwsalem. Myfi Dareius a osodais y gorchymyn; gwneler ef yn ebrwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Boed i'r Duw sy'n byw yn Jerwsalem ddinistrio unrhyw frenin neu wlad sy'n ceisio newid hyn er mwyn chwalu'r deml yno. Dw i, Dareius, wedi rhoi'r gorchymyn, a dw i'n disgwyl i'r cwbl gael ei gadw i'r llythyren!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A bydded i'r Duw sydd wedi gosod ei enw yno ddymchwel pob brenin a chenedl sy'n beiddio ymyrryd hyn neu'n dinistrio tu375?'r Duw hwn yn Jerwsalem. Myfi, Dareius, sy'n rhoi'r gorchymyn hwn; rhaid ei gadw'n fanwl."