Ezra 6:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A henuriaid yr Iddewon a adeiladasant, ac a lwyddasant trwy broffwydoliaeth Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido; ie, adeiladasant, a gorffenasant, wrth orchymyn DUW Israel, ac wrth orchymyn Cyrus a Dareius, ac Artacsercses brenin Persia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd arweinwyr yr Iddewon yn dal ati i adeiladu, ac yn llwyddiannus iawn, tra roedd Haggai a Sechareia fab Ido yn dal ati i broffwydo. A dyma nhw'n gorffen y gwaith adeiladu roedd Duw Israel wedi ei orchymyn, a hefyd Cyrus, Dareius ac Artaxerxes, brenhinoedd Persia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy gymorth proffwydoliaeth Haggai'r proffwyd a Sechareia fab Ido, llwyddodd henuriaid yr Iddewon gyda'r adeiladu, a'i orffen yn l gorchymyn Duw Israel a gorchymyn Cyrus a Dareius ac Artaxerxes brenin Persia.