Ezra 6:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gosodasant hefyd yr offeiriaid yn eu dosbarthiadau, a'r Lefiaid yn eu cylchoedd hwythau, i wasanaeth DUW yn Jerwsalem, yn ôl ysgrifen llyfr Moses.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna, fel mae sgrôl Moses yn dweud, dyma nhw'n rhannu'r offeiriaid a'r Lefiaid yn grwpiau, i fod yn gyfrifol am addoliad Duw yn Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trefnwyd yr offeiriaid yn eu dosbarthiadau a'r Lefiaid yn eu hadrannau ar gyfer gwasanaethu Duw yn Jerwsalem, fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr Moses.