Ezra 6:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hyn a fyddo angenrheidiol i boethoffrymau DUW y nefoedd, yn eidionau, neu yn hyrddod, neu yn ŵyn, yn ŷd, yn halen, yn win, ac yn olew, yn ôl yr hyn a ddywedo yr offeiriaid sydd yn Jerwsalem, rhodder iddynt bob dydd yn ddi‐baid:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylid gwneud yn siŵr bob dydd eu bod nhw'n cael popeth sydd ei angen — teirw, hyrddod, ac ŵyn yn offrymau i'w llosgi i Dduw y nefoedd, gwenith, halen, gwin ac olew olewydd — beth bynnag mae'r offeiriaid yn Jerwsalem yn gofyn amdano.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhodder iddynt bob dydd yn ddi-feth beth bynnag sy'n angenrheidiol i aberthu i Dduw'r nefoedd teirw, hyrddod, defaid, gwenith, halen, gwin ac olew