Ezra 7:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tithau, Esra, yn ôl doethineb dy DDUW, yr hwn sydd yn dy law, gosod swyddogion a barnwyr, i farnu yr holl bobl o'r tu hwnt i'r afon, y rhai oll a fedrant gyfraith dy DDUW; a dysgwch y rhai nis medrant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna ti, Esra. Defnyddia'r ddoethineb mae dy Dduw wedi ei rhoi i ti i ddewis barnwyr a swyddogion llys. Wedyn byddan nhw'n gallu delio gydag achosion y bobl hynny yn rhanbarth Traws-Ewffrates sy'n gyfarwydd â chyfraith dy Dduw; a dylid hyfforddi'r rhai hynny sydd ddim yn gwybod y Gyfraith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A thithau, Esra, yn unol 'r ddoethineb ddwyfol sydd gennyt, ethol swyddogion a barnwyr i farnu pawb yn Tu-hwnt-i'r-Ewffrates sy'n gwybod cyfraith dy Dduw, ac i ddysgu pawb sydd heb ei gwybod.