Ezra 7:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phwy bynnag ni wnelo gyfraith dy DDUW, a chyfraith y brenin, gwneler barn yn ebrwydd arno ef, pa un bynnag ai i farwolaeth, ai i'w ddeol, ai i ddirwy o dda, ai i garchar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd unrhyw un sy'n torri cyfraith dy Dduw a chyfreithiau'r brenin yn cael eu cosbi gyda'r ddedfryd briodol — cael eu dienyddio, cael eu halltudio, colli eu heiddo neu gael eu carcharu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pob un nad yw'n cadw cyfraith dy Dduw a chyfraith y brenin, dyger ef yn ddi-oed i farn, a'i ddedfrydu naill ai i farwolaeth neu i alltudiaeth neu ddirwy neu garchar."