Ezra 7:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a barodd i mi drugaredd o flaen y brenin a'i gynghoriaid, ac o flaen holl gedyrn dywysogion y brenin. A mi a gynorthwywyd, fel yr oedd llaw yr ARGLWYDD fy NUW arnaf fi, a chesglais o Israel benaethiaid i fyned i fyny gyda mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae wedi peri i'r brenin, ei gynghorwyr, a'i swyddogion pwysig eraill, fod mor garedig tuag ata i. Roeddwn i'n teimlo'n fwy a mwy hyderus wrth weld fod llaw yr ARGLWYDD arna i. A dyma fi'n casglu nifer o arweinwyr pobl Israel i fynd i Jerwsalem gyda mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac a barodd i mi gael ffafr gan y brenin a'i gynghorwyr a'i bendefigion. Am fod yr ARGLWYDD fy Nuw yn fy nerthu, ymwrolais a chasglu rhai blaenllaw o blith yr Israeliaid i fynd gyda mi."