Ezra 7:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Esra hwn a aeth i fyny o Babilon; ac efe oedd ysgrifennydd cyflym yng nghyfraith Moses, yr hon a roddasai ARGLWYDD DDUW Israel: a'r brenin a roddes iddo ef ei holl ddymuniad, fel yr ydoedd llaw yr ARGLWYDD ei DDUW arno ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hwn oedd yr Esra ddaeth yn ôl o Babilon. Roedd yn arbenigwr yn y Gyfraith roddodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, i Moses. Roedd y brenin Artaxerxes wedi rhoi iddo bopeth roedd wedi gofyn amdano, am fod llaw yr ARGLWYDD ei Dduw arno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Esra yn ysgrifennydd hyddysg yng nghyfraith Moses, a roddwyd gan ARGLWYDD Dduw Israel; ac am ei fod yn derbyn ffafr gan yr ARGLWYDD ei Dduw, cafodd y cwbl a ddymunai gan y brenin.