Ezra 8:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chesglais hwynt wrth yr afon sydd yn myned i Ahafa; ac yno y gwersyllasom ni dridiau: a mi a ystyriais y bobl, a'r offeiriaid, ond ni chefais yno neb o feibion Lefi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fi'n eu casglu nhw at ei gilydd wrth y gamlas sy'n rhedeg i Ahafa. Buon ni'n gwersylla yno am dri diwrnod. Roedd pobl gyffredin ac offeiriaid yno gyda ni, ond dyma fi'n darganfod fod dim Lefiaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cesglais hwy ynghyd wrth yr afon sy'n llifo i afon Ahafa a gwersyllu yno dridiau. Wedi bwrw golwg dros y bobl a'r offeiriaid, cefais nad oedd Lefiad yn eu plith.