Ezra 8:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac o'r Nethiniaid, a roddasai Dafydd a'r tywysogion yng ngwasanaeth y Lefiaid, dau cant ac ugain o Nethiniaid: hwynt oll a hysbysasid erbyn eu henwau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A hefyd, rhai oedd yn weision y deml (y rhai roedd y brenin Dafydd a'i swyddogion wedi eu penodi i helpu'r Lefiaid) — 220 ohonyn nhw. A dyma enwau pob un ohonyn nhw yn cael eu rhestru.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dau gant ac ugain o weision y deml, yn unol threfn Dafydd a'i swyddogion, i gynorthwyo'r Lefiaid. Rhestrwyd hwy oll wrth eu henwau.