Ezra 8:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys cywilydd oedd gennyf geisio gan y brenin fyddin a gwŷr meirch, i'n cynorthwyo rhag y gelyn ar y ffordd: canys llefarasem wrth y brenin, gan ddywedyd, Llaw ein DUW ni sydd er daioni ar bawb a'i ceisiant ef, a'i gryfder a'i ddicter yn erbyn pawb a'i gadawant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd gen i mo'r wyneb i ofyn i'r brenin roi milwyr a marchogion i'n hamddiffyn ni ar y ffordd. Wedi'r cwbl, roedden ni wedi dweud wrth y brenin, “Mae Duw'n gofalu am bawb sy'n ei geisio, ond mae'n ddig iawn hefo pawb sy'n troi cefn arno.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd arnaf gywilydd gofyn i'r brenin am filwyr a marchogion i'n hamddiffyn yn erbyn gelynion ar y ffordd, am ein bod eisoes wedi dweud wrtho, "Y mae ein Duw yn rhoi cymorth i bawb sy'n ei geisio, ond daw grym ei lid yn erbyn pawb sy'n ei wadu."