Ezra 8:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a bwysais atynt hwy yr arian, a'r aur, a'r llestri, sef offrwm tŷ ein DUW ni, yr hyn a offrymasai y brenin, a'i gynghoriaid, a'i dywysogion, a holl Israel, y rhai a gawsid yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fi'n pwyso'r arian, yr aur a'r llestri oedd i fynd i deml ein Duw a rhoi'r cwbl yn eu gofal nhw (sef y pethau roedd y brenin, ei gynghorwyr a'i swyddogion, a phawb o bobl Israel oedd yn Babilon, wedi ei gyfrannu):
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a throsglwyddo iddynt hwy yr arian a'r aur a'r llestri a roddwyd yn anrheg i du375? ein Duw gan y brenin a'i gynghorwyr a'i dywysogion a'r holl Israeliaid oedd gyda hwy.